Yn 2017, enillodd y Ganolfan gyllid o'r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR) ar gyfer rhaglen dair blynedd a fydd yn sefydlu Grŵp Ymchwil Iechyd Byd-eang ar Drawma Llosgi. Bydd cwmpas gwaith y ganolfan ar gyfer y cyfnod hwn yn canolbwyntio ar gyflwyno allbynnau a chanlyniadau'r prosiect hwn.
Darllen Mwy
Gwnaeth y Ganolfan llwyddo i ennill grant bach yn 2017 i wella gallu presennol tacsis beiciau modur a'u gyrwyr i weithredu fel ymatebwr cymorth cyntaf a mynd i'r afael ag argyfyngau llosgi mewn amgylchiadau "y filltir olaf" yn Affrica wledig, gan ddechrau trwy gynnal astudiaeth yn Sierra Leone.
Creda SAGUN bod tlodi, anghyfiawnder a gwahaniaethu cysylltiedig, a diraddiad amgylcheddol yn tarddu o berthynas anghytgordiol rhwng bodau dynol a pholisïau annigonol i ymdrin â nhw.
Ymweld â'r Safle
Mae Iechyd Affrica Amref yn cydweithio gyda chymunedau yn Affrica er mwyn creu newid iechyd parhaol.
Gweledigaeth MAP yw gweld dyfodol lle mae'r holl Balestiniaid yn gallu cael mynediad at system gofal iechyd effeithiol a chynaliadwy a arweinir yn lleol, a lle mae eu hawliau i gael iechyd ac urddas yn cael eu gwireddu'n llawn.
Ymweld â'r Safle
Mae Interburns yn elusen sy'n ymrwymedig i drawsnewid gofal ac atal llosgiadau yn fyd-eang trwy addysg, hyfforddiant, ymchwil ac adeiladu capasiti.
Mae'r ganolfan yn gweithio gyda chydweithwyr o Grŵp Ymchwil Iechyd Byd-eang ar Ymchwil i Anafiadau yn Nepal NIHR ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, er mwyn manteisio i’r eithaf ar synergeddau ac i rannu gwybodaeth o arolygon sy’n cael eu cynnal yn Nepal.
Ymweld â'r SafleMae'r ganolfan yn casglu ynghyd sylfaen wybodaeth helaeth Hopkins er mwyn datblygu atebion cynaliadwy sy'n croesi’r ffiniau sy'n atal iechyd da o gwmpas y byd.
Ymweld â'r Safle
Mae Sefydliad George ar gyfer Iechyd Byd-Eang yn sefydliad ymchwil iechyd a meddygol wedi’i leoli yn Awstralia, ei genhadaeth yw gwella iechyd miliynau o bobl yn fyd-eang.
Mae’r Sefydliad Iechyd Byd-eang yn AUB yn rhoi sylw i heriau iechyd byd-eang, gyda ffocws ar gyd-destun ac effaith gynaliadwy drwy ddefnyddio dull rhyngddisgyblaethol.
Ymweld â'r Safle
Rydym am greu dinasyddion iach a galluog a darparu gwasanaeth iechyd sydd wedi'i integreiddio'n dda, yn gyflym ac yn foddhaol – a chanddo system gweinyddu, rheoli a chymorth.
Tri phrif amcan NAMS yw: darparu addysg uwch ym maes Meddygaeth; cynhyrchu adnoddau dynol medrus a gwybodus ar gyfer rhoi triniaeth i bobl gyffredin; bod yn ffynhonnell ymchwil ym maes y gwyddorau iechyd yn y wlad.
Ein cenhadaeth yw hyrwyddo atal llosgiadau a datrys y problemau sy’n gysylltiedig ag anafiadau llosgi a sgaldiadau yn Nepal.
Mae Prifysgol Njala yn brifysgol gyhoeddus a leolir yn Bo ac yn Njala, yn Ardal Moyamba, Sierra Leone. Hon yw'r ail brifysgol fwyaf yn Sierra Leone ac mae hefyd yn rhan o Brifysgol Sierra Leone.
Ymweld â'r Safle
Prifysgol Abertawe yw cartref y Ganolfan Polisi ac Ymchwil Anafiadau Llosgi Byd-eang, ac mae hefyd yn bartner arweiniol ar gyfer y Grŵp Ymchwil Iechyd Byd-eang ar Drawma Llosgi.