Mae’r Canolfan Polisi ac Ymchwil Anafiadau Llosgi Byd-eang yn gyffrous ac yn falch o gyhoeddi manylion ail weithdy ar Wyddor Gweithredu a Gwella.
Dyluniwyd y gweithdy i weithwyr iechyd sy’n sefydlu, neu sydd eisoes wedi sefydlu, unedau llosgiadau mewn amgylcheddau lle mae gwrthdaro neu adnoddau prin.
Cynhelir y gweithdy, a ariennir gan y Ganolfan, yn Amman, yr Iorddonen y mis Mehefin hwn.
Mae ceisiadau bellach yn cael eu derbyn ar gyfer dod i’r gweithdy dwys dros 5 niwrnod hwn a fydd yn cynnig gwybodaeth a sgiliau gofal iechyd hanfodol ar gyfer ymgeiswyr ar y cam hwn o’u gyrfaoedd.
Cynhaliwyd y gweithdy cyntaf o’r math hwn ym Mhrifysgol Abertawe y llynedd ac, ar sail ei lwyddiant, mae manylion yr ail weithdy bellach wedi’u trefnu. Cynhelir y cwrs rhwng 7 ac 11 Mehefin yng ngwesty Belle Vue yn Amman, yr Iorddonen.
Yn y gweithdy cychwynnol, rhoddwyd gwybodaeth, hyder ac adnoddau i gyfranogwyr er mwyn datblygu eu mentrau a’u cynigion eu hunain. Roedd yr adborth yn gadarnhaol iawn a gadawodd llawer o’r cyfranogwy gyda chynlluniau i roi popeth a ddysgwyd ganddynt ar waith yn eu hardaloedd lleol perthnasol.
“Roedd y trefnu a’r cyfathrebu’n rhagorol. Roedd y dewis o bynciau yn ardderchog ac roedd yr holl hyfforddwyr o’r radd flaenaf.”
Eleni, yn ogystal â chyflwyniad i’r maes Gwyddor Gweithredu a Gwella, bydd y ganolfan yn canolbwyntio ar y sgiliau sy’n angenrheidiol ar gyfer uned iechyd flaenllaw mewn ardaloedd lle mae adnoddau’n brin. Bydd hyn yn cynnwys pynciau gwerthfawr megis egwyddorion gofal iechyd syml ac ystwyth.
Gwrandewch ar un o gyfranogwyr y llynedd yn trafod buddion y gweithdy a’r hyn i’w ddisgwyl yn yr un nesaf!
Os hoffech chi wneud cais i ymuno â’r gweithdy, mae’r ffurflen gais isod.
Taflen a ffurf I&IS Mehefin gweithdy 2020